Noddir Gan
Dathlu Llwyddiant Busnesau Sir Conwy
Ers 2012 rydym wedi bod yn dathlu busnes yn sir Conwy, yr arloeswyr, y prentisiaid, y bach, y newydd, a’r gwych – holl lwyddiannau busnes yng Nghonwy.
​
Rydym am wneud mwy na'ch llongyfarch a rhoi tlws i chi. Mae Gwobrau Conwy yn bodoli gan ein bod yn credu fod gan fusnes rôl allweddol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â phroblemau eraill fel diweithdra, tlodi, sgiliau a chydraddoldeb.
​
Ein bwriad, drwy gynnal y Gwobrau a thrwy waith ein tîm cymorth busnes drwy’r flwyddyn yw creu cymuned fusnes gryfach, fwy llwyddiannus yng Nghonwy sy’n helpu pawb i dyfu, i atynnu cwsmeriaid, partneriaid, talent, a buddsoddwyr newydd.
Noddir gan
Mae Cartrefi Conwy yn falch iawn o fod yn Brif Noddwr yng Ngwobrau Busnes Conwy eto eleni ac i fod yn rhan o'r dathliad gwych hwn o'r holl waith sy'n digwydd ledled y sir.
Byddwn yn dathlu 10 mlynedd o Cartrefi Conwy eleni ac rwy'n hynod o falch o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn yr amser hwn. Ni fyddai unrhyw un o'r rhain wedi'i gyflawni heb y busnesau lleol yr ydym wedi gweithio gyda hwy dros y blynyddoedd, o wasanaethau argraffu a dylunio i gontractwyr adeiladu a chyflenwyr.
Edrychwn ymlaen at y 10 mlynedd nesaf a byddwn yn gweithio gyda busnesau mwy anhygoel yng Nghonwy.