top of page

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

 

Ydw i’n gymwys i gymryd rhan?

I gymryd rhan  yng Ngwobrau Busnes Conwy mae’n rhaid i’ch busnes fod o fewn sir Conwy, neu os ydych eisiau enwebu unigolyn, mae’n rhaid iddo ef/hi fod yn gweithio i fusnes sydd wedi’i leoli yn sir Conwy. Bydd unrhyw feini prawf cymhwysedd eraill wedi eu rhestru ar dop y ffurflen enwebu ar gyfer pob categori.

​

 

Oes raid i mi enwebu fy musnes fy hun?

Rydych chi’n adnabod eich busnes yn well na neb arall, felly’r broses arferol yw bod busnesau’n cyflwyno eu henwebiadau eu hunain gyda gwybodaeth ategol berthnasol i’r categori a ddewiswyd.

​

 

Alla’ i gyflwyno mwy nag un enwebiad?

Gallwch.  Edrychwch ar yr holl gategorïau yn fanwl er mwyn penderfynu pa rai sy’n addas ar gyfer eich busnes chi - does dim cyfyngiad ar faint o gategorïau y gallwch wneud enwebiad oddi tanynt.

​

 

Alla’i ymestyn y terfyn geiriau ar gyfer fy enwebiad?

Rydym yn credu ein bod wedi gosod nifer y geiriau ar lefel a fydd yn rhoi digon o le i chi roi eglurhad llawn am y rhesymau pam yr ydych yn rhoi eich cwmni ymlaen am wobr. Ni ellir mynd dros nifer y terfyn geiriau a osodwyd.

​

 

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi enwebu fy nghwmni?

Byddwch yn cael e-bost yn cadarnhau y derbyniwyd eich cais.  Os nad ydych yn cael yr e-bost hwn, cysylltwch â Heather Thoms ar 01492 574541 neu Kim Nicholls ar 01492 574555 neu anfonwch e-bost at  gwobrau@conwy.co.uk  

​

 

Alla’i uwchlwytho unrhyw ddogfennau ategol?

Rydym yn eich annog i gyflwyno gwybodaeth ategol gyda’ch cais ar ffurf 1 ddogfen ychwanegol.  Ni chaniateir dim mwy na 6 dalen maint A4 (3 dalen ddwy ochrog). Ni chewch gyflwyno dim mwy na hyn.

​

​

Beth yw trefn y broses feirniadu?

 Bydd y beirniadu’n digwydd mewn dwy gam gan Dim Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac arbenigwyr etholedig o'r cwmnïau sy'n noddi'r gwobrau. Y cam gyntaf fydd tynnu rhestr fer a’r ail fydd y beirniadu terfynol (a fydd yn digwydd tua diwedd Mai).

​

 

Pryd a lle fydd y seremoni wobrwyo?

Bydd Seremoni Gwobrau Busnes Conwy 2019 yn digwydd yn Venue Cymru, Llandudno ar ddydd Gwener Mehefin 21.  Gall unrhyw un brynu tocyn er mwyn bod yn y seremoni. Mae tocynnau ar gael o eventbrite yn agos i'r digwyddiad

 

Oes ‘na ragor o wybodaeth ar gael am amserlen y seremoni wobrwyo?

Bydd yr amserlen ar gael ar ein gwefan ac yn cael ei hanfon atoch yn agosach at y digwyddiad. Mae’r noson fel arfer yn cychwyn tua 6.30yh.

​

 

​

​

bottom of page