Noddir Gan
Enwebiadau wedi cau!
Ond peidiwch â phoeni, gallwch brynu tocynnau i'r seremoni wobrwyo ar 21 Mehefin
Busnes y Flwyddyn
Wedi ei gydnabod fel arweinydd yn y maes, yn dangos cynnydd mewn gwerthiant, cyfrif pennau, proffidioldeb a chyfran o’r farchnad dros y 3 blynedd ddiwethaf. Bydd y Wobr hon yn mynd i’r busnes sy’n gallu arddangos y lefelau uchaf o dwf a chynllun cadarn ar gyfer perfformiad ariannol cynaliadwy.
Noddir gan
Busnes Bach y Flwyddyn
Cydnabod busnesau bach sy’n perfformio ar lefel uchel o fewn eu sector o’r diwydiant, gan gynnwys Cwmnïau Cyfyngedig, Masnachwyr Unigol a busnesau Un Swyddfa / Swyddfa yn y Cartref gyda llai na 10 o weithwyr.
Cefnogir Gan
Busnes Newydd y Flwyddyn
Mae’r wobr hon yn cydnabod busnesau sydd wedi dechrau masnachu o fewn y 24 mis diwethaf, wedi rhagori ar eu targedau cychwynnol ar gyfer twf ac eisoes yn dangos arwyddocâd o fewn y diwydiant y maent yn gweithredu ynddo. Dylai hefyd fod ganddynt y swyddogaethau ar gyfer llwyddiant parhaus ac ehangiad posibl.
Noddir Gan
Arweinydd Busnes y Flwyddyn
Mae’r wobr hon yn cydnabod pobl fusnes sy’n arddangos meddwl busnes strategol, sydd ag ysbryd entrepreneuraidd rhagorol ac yn cael eu hystyried yn arweinwyr yn eu maes gan eraill. Ar agor i unigolion sydd naill ai’n hunangyflogedig neu’n cael eu cyflogi gan fusnes.
Noddir gan
Prentis y Flwyddyn
Noddir gan
Mae’r wobr hon yn cydnabod prentisiaid sydd naill ai’n gweithio tuag at neu sydd wedi cwblhau eu prentisiaeth yn ddiweddar. Bydd yr unigolyn wedi dangos cynnydd rhagorol ac ymrwymiad i’w datblygiad personol eu hunain ac wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fusnes y cwmni y maent yn gweithio iddo.
Rhaid i'r sefydliad / tiwtor neu gyflogwr hyfforddi fynd gyda'r cais a / neu ei gyflwyno.
Gwobr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
Nod y wobr hon yw cydnabod busnesau corfforaethol sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol neu wedi cael effaith gadarnhaol ar bobl, yr amgylchedd neu wella cynaliadwyedd yng Nghonwy.
Noddir Gan
Gwobr Canolbwyntio Orau ar Gwsmeriaid
Mae’r wobr hon yn cydnabod busnesau sy’n dangos cysylltiad cryf rhwng gwasanaeth cwsmeriaid ac elw. Rhaid i’r busnes gael ei godi o amgylch anghenion ei gynulleidfa darged a bod wedi nodi ac wedi rhagori wrth ddarparu yn erbyn disgwyliadau cwsmeriaid.
Noddir gan
Menter Gymdeithasol y Flwyddyn
Nod y wobr hon yw cydnabod menter gymdeithasol sydd â gweledigaeth glir ac yn cyflawni ei Ddatganiad Cenhadaeth Cymdeithasol, sydd â thwf cynaliadwy a pherfformiad ariannol, ac yn cyflawni lefel uchel o ymgysylltu â chwsmeriaid a'r gymuned.
Noddir gan
Busnes Gwyrdd y Flwyddyn
Mae’r Wobr hon yn cydnabod y cwmnïau sy’n dangos ymrwymiad llwyddiannus i gymell cynaliadwyedd drwy eu busnes, cydbwyso ymrwymiadau cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol. Rhaid i’r busnes arddangos amgylchedd da neu arfer cynaliadwyedd, gan leihau costau ynni, lleihau gwastraff neu leihau eu hôl troed carbon drwy ddulliau eraill.
Noddir gan
Busnes Bwyd a Diod y Flwyddyn
Mae’r wobr yn cydnabod busnesau bwyd a diod sy’n dangos gwir ymrwymiad i gynnyrch lleol. Bydd beirniaid yn ystyried busnesau sy’n cynnig rhagoriaeth o ran ansawdd a gwasanaeth, ac yn arddangos arloesi o safbwynt cynhyrchion a gwasanaethau
Noddir gan
Gweithiwr Eithriadol y Flwyddyn
Os oes gennych weithiwr rydych chi’n teimlo y dylid rhoi cydnabyddiaeth wirioneddol iddo / iddi a gwobr, yna beth am ddweud wrthym pam eu bod yn cael eu gwerthfawrogi cymaint. Gall hwn fod yn weithiwr sydd wedi dangos menter ragorol ac wedi mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau, neu rywun sy'n ymroddedig ac yn effeithiol
Noddir gan
Busnes Twristiaeth y Flwyddyn
Mae'r categori hwn yn agored i unrhyw sefydliad, waeth beth fo'i faint, sy'n gysylltiedig â chyflwyno twristiaeth, atyniadau ymwelwyr neu letygarwch. Mae hyn yn cynnwys gwestai, bwytai, atyniadau ymwelwyr, profiadau a digwyddiadau, ond heb eu cyfyngu iddynt. Rhaid i'r busnes ddangos perfformiad rhagorol mewn nifer o agweddau ac mae wedi helpu i roi Conwy ar y map twristiaeth.
Noddir gan
Busnes TG/ Digidol y Flwyddyn
Wedi ei anelu at fusnesau Conwy sydd wedi manteisio ar dechnoleg i ddarparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid neu i greu mantais weithredol neu ar gyfer busnesau sydd wedi gwella'r profiad i gwsmeriaid neu weithwyr drwy ddefnyddio technoleg mewn modd clyfar
Noddir gan
Busnes Arloesedd y Flwyddyn
Ydi’ch cwmni chi wedi cael syniad penigamp? Cynnyrch neu wasanaeth newydd, neu ffordd newydd o weithio sydd wedi rhoi hwb i berfformiad ac elw? Os felly, mae’r beirniaid yn chwilio am fusnesau fel eich un chi. Bydd yn rhaid ichi fedru dangos sut fuoch chi’n arloesol, a sut mae hynny wedi dod â budd masnachol i’ch busnes.
Cefnogir gan